Croeso
Croeso i Wefan Cyngor Cymuned Llanfihangel ar arth.
Mae’r Cyngor yn gwasanaethu’r pentrefi canlynol yn Sir Gâr: Alltwalis, Dolgran, Gwyddgrug, Llanfihangel ar arth, New Inn, Pencader a Phont Tyweli.
Ein Cynghorydd Sir yw Linda Davies Evans.
Mae 12 Cynghorwr yn gwneud y gwaith yn wirfoddol. Cyflogir Clerc, Gofalwr Mynwent y Plwyf Pencader, a Mynwent Toedyrhiw, Alltwalis, a Gofalwraig i’r Cornel Chwarae ym Mhencader.
Mae’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn Festri Capel Tabernacl Pencader ar y trydydd nos Lun o’r mis (7.30yh o fis Tachwedd i fis Mawrth, ac 8.00yh o fis Ebrill i fis Hydref). Does dim cyfarfod ym misoedd Awst a Rhagfyr.
Cynhelir Cyfarfod Blynyddol am 7.30 ar y 3ydd Llun ym Mis Mai.